top of page

Gwasanaethau ar gyfer Ganolfannau

a Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored

Gyda nifer o flynyddoedd o weithio yn yr awyr agored gyda grwpiau, mae Anita Daimond ar gael ar gyfer y we arwain ystod eang o weithgareddau. Mae rhestr o'i chymwysterau ar gael yma:

cerdded mynydd.jpg
Cerdded Mynydd

Mae Anita wedi bod yn arweinydd mynydd ers 2005. Mae hi'n gyfarwydd iawn gyda mynyddoedd Eryri ac yn hoffi dehongli'r hanes, natur a thirwedd wrth fynd.

ceufad.jpg
Ceufadu

Mae Anita yn hyfforddwraig ceufad Lefel 2. Mae ganddi brofiad o gynnal sesiynau ar gyfer dechreuwyr mewn gwahanol fathau o geufad ac ar fwrdd padlo.

Dringo.jpg
Dringo

Mae Anita wedi cymhwyso i redeg sesiynau dringo ar greigiau sengl ers 2007. Mae ganddi brofiad o weithio gydag amrywiaeth o wahanol ddysgwyr.

canwio.jpg
Canŵio

Mae Anita yn hyfforddwraig canŵio Lefel 2 ac arweinydd canŵ sydd gyda'r cymhwyster 4 seren canŵ. Mae ganddi brofiad o arwain alldeithiau canŵ. 

Gorge.jpg
Sgramblo Ceunant

Mae Anita yn brofiadol yn arwain grwpiau o blant, pobl ifanc ac oedolion yn y ceunentydd  Afon Ddu a Geirionnydd ar ran gwahanol ddarparwyr.

P1062242.jpg
Ceufad Môr

Mae Anita yn hyfforddwraig ceufad môr ac arweinydd ceufad môr lefel uwch. Mae hi'n rhedeg cwmni ceufad môr sef: Sea Môr  Kayaking

bottom of page