
Gweithdai bioleg a sgiliau llafaredd
Bioleg y lan creigiog a chwestiynau mawr amgylcheddol
Lleoliad: Porthaethwy
Prif feysydd dysgu: bioleg, daearyddiaeth, hanes a llafaredd
Oedran: Cyfnod Allweddol 2
(bydd posib addasu ar gyfer ysgolion uwchradd - holwch am fanylion)
Mi fydd y diwrnod yma’n cynnwys
-
Dro i arsylwi ar y Fenai heddiw lle mi fydden ni’n ystyried sut mae’r Fenai wedi newid dros amser
-
Gweithgareddau bydd yn hybu dealltwriaeth o’r sustem solar a’r effaith hyn ar y llanw a’r bywyd gwyllt
-
Astudio bywyd gwyllt y lan creigiog (gwymon, molysgiaid, adar ag anifeiliaid eraill y môr) yn ei gynefin
-
Cyfle wedyn i ddisgyblion ffurfio cwestiynau eu hunain er mwyn cael trafodaeth am faterion mawr amgylcheddol cyfoes (megis newid hinsawdd, lefelau môr, gwastraff plastig, llygredd môr ayyb).
Man cyfarfod
Canolfan Thomas Telford, Porthaethwy (cyferbyn a Waitrose)
Dyddiadau ac amseroedd ar gael:
Bydd dyddiadau yn cael eu cyhoeddi cyn hir
Cost
£200 y diwrnod (bydd gostyngiad o 10% ar gyfer archebu tymor ymlaen llaw)
Niferoedd
Bydd bosib mynd ac un dosbarth ysgol gynradd ar y tro (hyd at 30 o blant)
I archebu lle neu wneud ymholiad llennwch y ffurflen isod.
Diddordeb mewn gweithdy tebyg i safle arall yng Ngogledd Orllewin Cymru? Gwnewch ymholiad isod.



