top of page

Gweithdai sy'n cyfuno dysgu am natur a datblygu sgiliau 

Cyfle i ddysgu am natur wrth ddatblygu sgiliau perthnasol i'r cwriwlwm newydd i Gymru.

Gwelwch isod am manylion cyfleodd sydd ar gael ar hyn o bryd. Cewch archebu ar-lein neu cysylltwch er mwyn trafod eich anghenion.

Gweithdy Mamaliaid Coedwigoedd Cymru

Oed 7-11

Lleoliad: Eich ysgol

Bydd pwyslais ar y berthynas rhwng gwiwerod coch, gwiwerod llwyd a bele’r coed, hefyd byddwn yn dysgu am gynefinoedd coedwig addas ar gyfer pathewod ag ystlumod.

Redsquirrel_eating_2012 sgwar.jpg

Amcanion Dysgu

  • Dysgu am wiwerod, belaod coed, pathewod ag ystlumod

  • Dysgu am effaith pobl ar natur

  • Perthynas rhwng anifeiliaid a’u cynefinoedd

Sgiliau

  • Gwaith tîm: cyfathrebu a llafaredd

  • Datrys problemau

  • Bod yn greadigol

Iechyd a Lles

  • Gemau addysgol hwyl

  • Gweithgareddau corfforol

  • Ystyried ein teimladau

Mae’r gweithdy hanner diwrnod hwn ar gael yn ystod Gwanwyn 2024. Cewch weld argaeledd diweddaraf ar y safle we ac archebu ar-lein trwy ddefnyddio cerdyn banc/credyd. Neu cewch e-bostio Anita Daimond anita@anturnatur.cymru gyda’ch dewis dyddiad er mwyn derbyn anfoneb i chi talu trwy’r banc. 


Cost i ysgolion o fewn 30 milltir o Fethesda (LL57 3EU) yw £180 ar gyfer un dosbarth (<30 disgybl) am hanner diwrnod neu os gennych chi dau dosbarth £300 am diwrnod cyfan (hanner diwrnod yr un). Croeso i ysgolion bach sydd yn gyfagos i’w gilydd cyfuno er mwyn archebu diwrnod cyfan rhyngddo’ch. 
 

Read More

Bioleg y lan creigiog ger y môr

Oed 7-14

Lleoliad; Porthaethwy, Y Foryd, Nefyn, Criccieth

Byddwn yn astudio bywyd gwyllt y lan creigiog (gwymon, molysgiaid, adar ag anifeiliaid eraill y môr) yn ei gynefin trwy'r gweithgareddau arsylwi a gemau corfforol

Periwinkle.jpg

Amcanion Dysgu

  • Dysgu am y cynefin creigiog ger y môr a'r ffactorau amgylcheddol sydd yn dylanwadu arnyn

  • Dysgu am fygythiadau i'r cynefin gan gynnwys newid hinsawdd a rhywogaethau estron 

  • Dysgu am sut mae rhai o'r rhywogaethau’r lan yn atgenhedlu ac wedi addasu i’w cynefin

Sgiliau

  • Gwaith tîm: cyfathrebu a llafaredd

  • Rhifedd

Iechyd a Lles

  • Gemau addysgol hwyl

  • Gweithgareddau corfforol

  • Ystyried ein teimladau

Mae’r ymweliad maes hanner diwrnod hwn ar gael yn ystod 2024. Holwch am argaeledd gan fod angen mynd ar ddyddiad pan mae'r llanw allan. Neu cewch e-bostio Anita Daimond anita@anturnatur.cymru gyda’ch dewis dyddiad er mwyn derbyn anfoneb i chi talu trwy’r banc. 


Cost i ysgolion yw £180 ar gyfer un dosbarth (<30 disgybl) am hanner diwrnod neu £300 am diwrnod cyfan. 

Read More

Ymweliad Coedwig Glaw Celtaidd

Oed 7-14

Lleoliad: nifer o safleoedd coedwig penodol ar gael 

Bydd pwyslais y diwrnod ar ddysgu am y cynefin, y planhigion, ffwng a'r anifeiliaid,  trwy ddefnyddio gweithgareddau sy'n annog i'r plant dysgu eu hunain.

P5031940s.JPG

Amcanion Dysgu

  • Dysgu am y Goedwig Law Celtaidd, y ffactorau sy’n dylanwadu ar le maent a’r bygwth dynol ar y cynefin

  • Datblygu cysylltiad â’r coed â’r planhigion.

  • Dysgu am sut mae rhywogaethau’r goedwig yn atgenhedlu ac wedi addasu i’w cynefin

  • Dysgu am rhai o’r mamaliaid y Goedwig Law Celtaidd

Sgiliau

  • Gwaith tîm: cyfathrebu a llafaredd

  • Rhifedd

Iechyd a Lles

  • Gemau addysgol hwyl

  • Gweithgareddau corfforol

  • Ystyried ein teimladau

Mae’r ymweliad maes hanner diwrnod hwn ar gael yn ystod gwanwyn a hydref 2024. Cewch weld argaeledd diweddaraf ar y safle we ac archebu ar-lein trwy ddefnyddio cerdyn banc/credyd. Neu cewch e-bostio Anita Daimond anita@anturnatur.cymru gyda’ch dewis dyddiad er mwyn derbyn anfoneb i chi talu trwy’r banc. 


Cost i ysgolion yw £180 ar gyfer un dosbarth (<30 disgybl) am hanner diwrnod neu £300 am diwrnod cyfan. 

Read More

Cynefinoedd glaswelltir a rhostir

Oed 9-14

Lleoliad; nifer e.e Carneddau, Yr Eifl, Cwm Idwal

Byddwn yn astudio'r planhigion tirweddau glaswellt, grug, ac ucheldir a'r ffactorau dynol hanesyddol a cyfoes sydd yn effeithio arnynt. Mae'r diwrnod yma'n cynnwys dysgu am y dyniaethau. 

IMG_20211025_152836cll.jpg

Amcanion Dysgu

  • Dysgu am y cynefinoedd glaswelltir, rhostir ag ucheldir a'r ffactorau dynol sydd yn dylanwadu arnyn

  • Dysgu am fygythiadau i'r cynefin gan gynnwys newid hinsawdd, llygredd a rhywogaethau estron 

  • Dysgu am sut all pori gan wahanol anifeiliaid dylanwadu ar y cynefin 

Sgiliau

  • Gwaith tîm: cyfathrebu a llafaredd

  • Defnyddio map

Iechyd a Lles

  • Cerdded yn gefn gwlad

  • Gweithgareddau corfforol

  • Ystyried ein teimladau

Mae’r ymweliad maes hanner diwrnod hwn ar gael yn yr haf a hydref 2024. Cewch weld argaeledd diweddaraf ar y safle we ac archebu ar-lein trwy ddefnyddio cerdyn banc/credyd. Neu cewch e-bostio Anita Daimond anita@anturnatur.cymru gyda’ch dewis dyddiad er mwyn derbyn anfoneb i chi talu trwy’r banc. 


Cost i ysgolion yw £180 ar gyfer un dosbarth (<30 disgybl) am hanner diwrnod neu £300 am diwrnod cyfan. 

Read More
Gwnewch ymholiad

Diolch!

bottom of page