top of page
Mae Anita Daimond yn arbenigo fewn addysg amgylcheddol awyr agored. Mae hi'n gweithio gyda grwpiau ac yn gwneud gwaith ymgynghori.
  • Teithiau addysgol yn yr awyr agored

  • Ymweliadau gwaith maes arbennig i chi

  • Cymorth ar gyfer ehangu defnydd o'ch tir ysgol 

  • Ymarferydd creadigol

  • Rheoli a datblygu prosiectau gwaith maes

  • Cymorth datblygu ac arwain ymweliadau ysgol

  • Cynnal sesiynau hyfforddiant yn yr awyr agored ar gyfer athrawon 

  • Arwain teithiau cerdded

  • Arwain gweithgareddau awyr agored

  • Arwain gwaith maes

  • Cefnogaeth gyda phrosiectau dros dro

  • Arweinydd Mynydd

  • Hyfforddwraig Ceufad Môr

Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Yn cynnig profiadau dysgu yn yr awyr agored wedi addasu i'ch anghenion chi ...

Prif ddiddordeb Anita yw creu a chefnogi eraill i greu profiadau dysgu pynciol hwyl yn yr awyr agored. Mae hi'n gallu tynnu ar ei phrofiad o ddysgu gwaith maes a'i blethu gyda sgiliau awyr agored i ddarparu gwasanaeth unigryw i'ch gofynion. Mae hi wedi astudio addysg ac yn credu mewn dulliau sydd yn annog disgyblion i ddysgu trwy brofiad ac sydd yn hybu creadigrwydd.  Mae hi wrth ei fodd datblygu ag arwain profiadau newydd ac arbennig i ysgolion lleol. 

Orchid.jpg

Natur

Gyda chefndir o ddysgu ecoleg fel modiwl lefel A, gradd gwyddoniaeth amgylchedd a diddordeb mawr mewn bywyd gwyllt mae Anita'n gallu darparu profiadau natur mewn amrywiaeth o wahanol gynefin. Holwch am ragor o wybodaeth. 

Mesur afon.jpg

Daearyddiaeth

Mae Anita wedi dysgu daearyddiaeth i Lefel A gan gynnwys gwaith maes sydd yn plethu gyda'r gofynion newydd CBAC TGAU a Lefel A.  Mae'n bosib iddi weithio gyda grwpiau ei hun neu mewn partneriaeth gyda canolfan lleol. 

Dro archaeoleg.jpg

Archaeoleg

Gweithiodd Anita i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd am 6 mlynedd yn dehongli archaeoleg i wahanol gynulleidfa. Mae hi'n gallu datblygu ac arwain gweithgareddau a phrosiectau archaeoleg ar gyfer plant a phobl ifanc.

Prosiectau Diweddar

Gweithdy Mamaliaid Coedwigoedd Cymru
Ar gyfer disgyblion 7-11
Ar gael gwanwyn 2024

Amcanion Dysgu

  • Dysgu am wiwerod, belaod coed, pathewod ag ystlumod

  • Dysgu am effaith pobl ar natur

  • Perthynas rhwng anifeiliaid a’u cynefinoedd

Sgiliau

  • Gwaith tîm: cyfathrebu a llafaredd

  • Datrys problemau

  • Bod yn greadigol

Iechyd a Lles

  • Gemau addysgol hwyl

  • Gweithgareddau corfforol

  • Ystyried ein teimladau

Redsquirrel_eating_2012 sgwar.jpg

Cost i ysgolion o fewn 30 milltir o Fethesda (LL57 3EU) yw £180 ar gyfer un dosbarth (<30 disgybl) am hanner diwrnod neu os gennych chi dau dosbarth £300 am diwrnod cyfan (hanner diwrnod yr un). 

bottom of page