top of page
Teithiau Cerdded Addysgol

Mae Anita yn cynnig teithiau cerdded addysgol i nifer o brif safleoedd poblogaidd ar gyfer agweddau penodol o'r cwricwlwm. Mae hi'n brofiadol cyflwyno amcanion dysgu bioleg, daearyddiaeth a hanes ar deithiau cerdded sydd yn gallu cynnwys gweithgareddau a/neu dasgau hel data.

Dyma rhai enghreifftiau o safleoedd sydd yn gyfarwydd iawn iddi.

Gwaith maes Cwm Idwal.jpg

Cwm Idwal

Mae pynciau perthnasol i Gwm Idwal yn cynnwys rhewlifoedd, rheoli cefn gwlad, gwarchodfeydd natur, planhigion y mynyddoedd a thwristiaeth.

Tre'r Ceiri .jpg

Tre'r Ceiri

Mae Tre'r Ceiri'r enghraifft gorau o fryngaer yng Nghymru. Mae ymweliadau yn gallu plethu gyda'r Celtiaid, Oes Yr Haearn, Y Rhufeiniaid, gwarchod safleoedd hanesyddol a thwristiaeth.

Coed Cyrnol.jpg

Coed Cyrnol

Mae Coed Cyrnol a choedwigoedd eraill yn safleoedd gwych ar gyfer dysgu am y tymhorau, phlanhigion, cylchred faetholion, blodau, dail, hadau a chadwraeth.

bottom of page