Dros 20 mlynedd o brofiad!
Dechreuais fy mywyd proffesiynol trwy weithio gyda phlant ysgol gynradd mewn canolfan cefn gwlad fel rhan o flwyddyn profiad gwaith yn ystod fy ngradd. Yno wnes i ddarganfod faint roeddwn i'n mwynhau gweithiau gyda grwpiau yn yr awyr agored wrth ddiddori nhw yn natur.
Tra gweithio i'r Cyngor Astudiaethau Maes (Field Studies Council) ychydig flynyddoedd wedyn, gefais brofiad o weithio gyda phobl ifanc yn ei arddegau a mwynhau'r cyfle i ymestyn nhw ymhellach. Hefyd sylwais faint roeddwn i wedi methu allan fy hun gan fy mod i heb gael cyfleoedd gwaith maes bioleg pan roeddwn i mewn ysgol uwchradd. Efallai dyma le daeth fy awch i sicrhau cyfleoedd ar gyfer plant a phobl ifanc lleol cael dysgu trwy wneud yn yr awyr agored.
Mwynheais ddysgu am ddamcaniaethau dysgu trwy fy addysg ol-radd ac yn dal mwynhau datblygu fy ngwybodaeth a sgiliau dysgu. Dwi'n hoffi'r cyfleoedd mae prosiectau fel yr un ysgolion creadigol yn rhoi i ni ddefnyddio dulliau gwahanol o alluogi plant i ddysgu.
Dwi dal yn dysgu pob tro dwi'n cymryd yr amser i sbïo ar fywyd gwyllt a'r byd sydd o'n gwmpas. Wrth ddysgu dwi'n atgoffa fy hun pa mor rhyfeddol mae ein hamgylchfyd a pa mor bwysig mae o i'n hiechyd a lles ac i'n goroesiad.