Tre'r Ceiri: Bryngaer Ryfeddol
Darganfod stori bryngaer Tre'r Ceiri a gwneud gwaith maes rhifedd
Lleoliad: Tre'r Ceiri, Pen Llŷn
Prif feysydd dysgu: hanes (Oes y celtiaid), daearyddiaeth, rhifedd ac ADCDF
Oedran: Cyfnod Allweddol 2
(bydd posib addasu ar gyfer ysgolion uwchradd - holwch am fanylion)
Mi fydd y diwrnod yma’n cynnwys
-
Dro i gopa fryngaer Tre'r Ceiri lle fydden ni'n fforio'r cytiau gan ystyried sut maen nhw wedi newid dros amser
-
Gweithgareddau bydd yn hybu sgiliau rhifedd gan gynnwys gwneud rhifiad o'r cytiau, amcangyfrif a gwneud mesuriadau
-
Sylwi ar y bywyd gwyllt a'r prif blanhigion yn y dirwedd
-
Cyfle wedyn i ddisgyblion ffurfio cwestiynau eu hunain ag ystyried materion cynaladwyedd e.e. deunydd adeiladu, cludiant, bwyd.
Man cyfarfod
Mae parcio Llysfaen (ar y lôn i Nant Gwrtheyrn)
Dyddiadau ac amseroedd ar gael:
9.45 - 2.15
Mae amrywiaeth o ddyddiadau ar gael rhwng Mis Mawrth a Mis Hydref . Holwch ar gyfer argaeledd.
Cost
£300 y diwrnod
Niferoedd
Bydd bosib mynd ac un dosbarth ar y tro (hyd at 30 o blant). Nodwch, mi fydd angen staff ysgol neu rieni ychwanegol yn ddibynnol ar faint y grŵp.
I archebu lle neu wneud ymholiad llennwch y ffurflen isod.
Diddordeb mewn gweithdy tebyg i safle arall yng Ngogledd Orllewin Cymru? Gwnewch ymholiad isod.