top of page

Ceufad Môr

Mae Anita yn cynnig teithiau ceufad môr a hyfforddiant ar gyfer unigolion, grwpiau preifat a theuluoedd.

Wedi lleoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri gallwn ddefnyddio Ynys Môn, Eryri, Conwy a Phen Llŷn ar gyfer ein diwrnodau hyfforddiant a theithiau tywys yng Ngogledd Cymru. Yn ystod tymor yr haf, rwy’n cynnig sesiynau hanner diwrnod a diwrnod llawn i ddechreuwyr ac i deuluoedd.


Dwi'n trefnu ac yn arwain teithiau aml ddiwrnod mewn ardaloedd eraill o'r DU ac alldeithiau yn yr Alban ar gyfer grwpiau preifat. Cysylltwch â mi i drafod eich dymuniadau lleoliad, math o antur ac anghenion eich grŵp.


Dwi'n cyfuno fy ngwybodaeth am fywyd gwyllt a'r ardal ynghyd â'm harbenigedd caiacio môr i drefnu profiad sydd yn cyd-fynd a'ch anghenion a diddordebau ac yn sicrhau eich mwynhad gan ystyried y tywydd ar y diwrnod.

Ewch i'r tudalen canŵio a cheufadu er mwyn gweld cyfleoedd eraill padlo.


Dilynwch y dolenni isod i archebu. Diolch.

Ceufad môr Penrhyn Llŷn gydag Anita Daimond .jpg
couple sea kayaking.jpg
sea kayaking trip.jpg

Dwi wrthi'n adeiladu'r tudalen yma. Bydd ragor o wybodaeth ar gael cyn hir. Yn y cyfamser cysylltwch er mwyn trafod eich anghenion a diddordeb.

Diolch, Anita

Logo square.jpg

Erbyn rŵan mae Anita Daimond, Antur Natur yn darparu'r gwasanaethau padlo roedd hi'n arfer cynnig trwy Sea Môr Kayaking

bottom of page