Mudiadau
Cyfle Arbennig: Astudiaeth bioleg sydd yn datblygu sgiliau llafaredd
Bydd nifer bach o ddyddiadau ar gael yn ystod tymor y haf 2021 ar gyfer ysgolion lleol.
Bydd cyfle i astudio natur ar lan creigiog ym Mhorthaethwy a trafod materion cyfoes amgylcheddol wrth ddatblygu sgiliau grŵp a sgiliau llafaredd.
-
Teithiau addysgol yn yr awyr agored
-
Ymweliadau gwaith maes arbennig i chi
-
Cymorth ar gyfer ehangu defnydd o'ch tir ysgol
-
Rheoli a datblygu prosiectau gwaith maes
-
Cymorth datblygu ac arwain ymweliadau ysgol
-
Cynnal sesiynau hyfforddiant yn yr awyr agored ar gyfer athrawon
-
Arwain gweithgareddau awyr agored
-
Arwain gwaith maes
-
Cefnogaeth gyda phrosiectau dros dro
Yn cynnig profiadau dysgu yn yr awyr agored wedi addasu i'ch anghenion chi ...
Prif ddiddordeb Anita yw creu a chefnogi eraill i greu profiadau dysgu pynciol hwyl yn yr awyr agored. Mae hi'n gallu tynnu ar ei phrofiad o ddysgu gwaith maes a'i blethu gyda sgiliau awyr agored i ddarparu gwasanaeth unigryw i'ch gofynion. Mae hi wedi astudio addysg ac yn credu mewn dulliau sydd yn annog disgyblion i ddysgu trwy brofiad ac sydd yn hybu creadigrwydd. Mae hi wrth ei fodd datblygu ag arwain profiadau newydd ac arbennig i ysgolion lleol.