Teithiau Cerdded dan Arweiniad
Mae Anita yn cynnig teithiau cerdded dan arweiniad i nifer o brif safleoedd poblogaidd yn ogystal â safleoedd ag ardaloedd mwy distaw yn Eryri, Sir Fôn a Phen Llŷn. Mae ganddi brofiad eang o ddehongli'r natur, tirlun ac archaeoleg yr ardal. Gall arwain deithiau i oedolion, grwpiau penodol a theuluoedd. Mae hi'n arweinydd mynydd cymwysedig profiadol.
Dyma rhai enghreifftiau o deithiau cerdded poblogaidd.
Cwm Idwal
Mae Cwm Idwal yn safle eiconig sydd yn enwog gan fod Charles Darwin wedi dod i'r casgliad fod Eryri wedi cael ei siapio gan rewlifoedd wrth ymweld yno. Mae hefyd lle da ar gyfer gweld Lili’r Wyddfa.
Tre'r Ceiri
Mae Tre'r Ceiri'r enghraifft gorau o fryngaer yng Nghymru. Mae Anita'n gyfarwydd iawn gyda'r safle yma gafodd ei adeiladu yn ystod Oes Yr Haearn ac addasu er pryd hwnnw. .
Coed Cyrnol
Mae Coed Cyrnol a choedwigoedd eraill yn safleoedd gwych ar gyfer dysgu am y tymhorau, phlanhigion, cylchred faetholion, blodau, dail, hadau a chadwraeth.