top of page

Gwasanathau ar gyfer ysgolion

Gyda brofiad o gweithio'n greadigol gydag ysgolion ar nifer fawr o wahanol safleoedd gan glymu i amrywiaeth o bynciau a themâu; mae Anita Daimond ar gael i gefnogi chi.

Mae hi'n arbenigo mewn gwaith maes, defnyddio tiroedd yr ysgol a datblygu gweithgareddau addysgol creadigol yn yr awyr agored.

Mae ganddi brofiad o blethu gweithgareddau awyr agored gyda'r fframwaith digidol, llythrennedd a rhifedd. 

cerdded lawr i llanber.jpg
Teithiau Cerdded

Gall teithiau cerdded cysylltu gydag anghenion dysgu ymarfer corff, hanes, daearyddiaeth neu wyddoniaeth. Neu medrwch ddefnyddio fel profiad i ysbrydoli gwaith creadigol fel celf wrth fod allan neu yn ôl yn yr ysgol.

geocache.jpg
Ysgolion Cynradd

Mae Anita ar gael i weithio gydag ysgolion cynradd mewn modd creadigol ar diroedd yr ysgol neu ar safleoedd cyfagos i'r ysgol. Mae hefyd gallu arwain tripiau i safleoedd i ffwrdd fel cestyll, coedwigoedd, traethau ag ati.

pond dipping.jpg
Gwaith maes

Mae Anita ar gael i ddatblygu gwaith maes sydd yn plethu gydag amrywiaeth o bynciau, sgiliau a themâu academaidd . Mae'n bosib plethu gwaith maes gyda gweithgareddau creadigol ac i ysbrydoli tymor o waith.

uwchradd.jpg
Ysgolion Uwchradd

O waith pynciol Lefel A hyd at weithgareddau themâu Cyfnod Allweddol 3 mae Anita ar gael i helpu chi cynllunio ag arwain profiadau tu allan i'r dosbarth bydd yn helpu eich disgyblion dysgu a datblygu sgiliau personol.

creadigol.jpg
Dysgu creadigol

Mae Anita'n gallu arwain gweithgareddau creadigol ac ymarferol yn yr awyr agored neu gynllunio profiadau awyr agored ar gyfer sbarduno gwaith creadigol yn y dosbarth.

hyfforddi staff2.jpg
Hyfforddiant a chymorth i athrawon

Mae Anita yn brofiadol hyfforddi athrawon mewn dulliau o ddefnyddio'r awyr agored ar gyfer amrywiaeth o amcanion dysgu. Mae wedi cofrestru gyda Learning Through Landscapes fel hyfforddwraig i weithio gydag athrawon i ddatblygu eu hymarfer tu allan o'r dosbarth.

bottom of page